Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Lleoliad Allanol |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 28 Medi 2020 |
|
||||
Amser: |
12.30 - 14.25 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(5)2020(6) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Suzy Davies AS Rhun ap Iorwerth AS David J Rowlands AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni ddaeth ymddiheuriadau i law ar gyfer y cyfarfod.
1.b Datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion 13 Gorffennaf.
2 Cyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2021/22
Ystyriodd y Comisiynwyr ddiwygiadau pellach i'r gyllideb ddrafft, gyda mân newidiadau ers cyfarfod y Comisiwn ar 13 Gorffennaf.
Gwnaethant gymeradwyo Cyllideb Ddrafft 2021-22, cyn iddi gael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.
At hynny, cytunodd y Comisiynwyr ar y diwygiadau i'r datgeliadau ar gyfer Safon Cyfrifeg Ariannol Ryngwladol newydd 16 – Prydlesi (IFRS 16) a diwygio blaenoriaethau Cronfa Brosiect.
At hynny, nododd y Comisiwn y llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
3 Diweddariad ynghylch COVID-19
A. Diweddariad ynghylch Covid-19
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a gafwyd ar drefniadau a fydd ar waith ar gyfer tymor yr hydref, a thrafodwyd y newidiadau diweddar i reoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gwnaethant gytuno i ymestyn
y cyfnod presennol o fod ar gau i’r cyhoedd tan 8 Tachwedd er mwyn ystyried y trefniadau o ran pwy sy’n bresennol yn yr adeilad yn eu cyfarfod nesaf, yn dilyn profiad hanner cyntaf y tymor ac o ystyried y sefyllfa bryd hynny.
B. Y dewisiadau o ran cynyddu’r niferoedd sy’n bresennol mewn person yn y Cyfarfod Llawn
Ystyriodd y Comisiynwyr y dewisiadau o ran cynyddu capasiti’r Siambr er mwyn i’r Aelodau allu bod yno yn ystod Cyfarfodydd Llawn, y tu hwnt i’r gallu presennol, tra bod yn dal i fod angen cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr.
Daethant i'r casgliad, er ei bod yn bwysig eu bod wedi ystyried y dewisiadau, ni ddylid mynd ar drywydd hynny ar hyn o bryd.
4 Cysylltiadau gwleidyddol yr Aelodau
Trafododd y Comisiynwyr y broses o gofnodi cysylltiadau gwleidyddol Aelodau nad oeddent yn perthyn i grwpiau pleidiau a gynrychiolir lle mae adnoddau'r Comisiwn yn cael eu defnyddio, e.e. y wefan, Cofnod y Trafodion, darpariaeth deunydd wedi’i argraffu, ac ati.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid caniatáu i'r Aelodau nodi eu cysylltiad ag unrhyw blaid sydd wedi'i chofrestru gyda'r Comisiwn Etholiadol. Bydd y Comisiwn yn dychwelyd at y mater yn ei adroddiad etifeddiaeth i'r Chweched Senedd.
5 Urddas a Pharch - adroddiad ar yr arolwg
Ystyriodd y Comisiynwyr gynnwys y trydydd adroddiad sy’n adolygu perfformiad yn erbyn ymrwymiad y Senedd i Urddas a Pharch, yn dilyn arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020. Wrth wneud hynny, cytunodd y Comisiynwyr y byddai'n amserol adolygu'r polisi yn ei gyfanrwydd – yn barod ar gyfer y Chweched Senedd yn enwedig – ac ochr yn ochr â gwaith y Pwyllgor Safonau o adolygu'r Cod Ymddygiad. At hynny, cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i feysydd gwaith y dyfodol sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Caiff yr adroddiad ei gyhoeddi ar ôl ei gwblhau.
6 Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd
Croesawodd y Comisiynwyr ddiweddariad ynghylch paratoadau o ran gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer mis Tachwedd yr oeddent, yn eu barn hwy, yn gynhwysfawr ac yn amrywiol. Gwnaethant drafod arwyddocâd estyn allan i gymunedau sy’n anodd eu cyrraedd, ac roeddent yn gefnogol o'r dull, sydd eisoes yn dangos mwy o gyfranogiad gan ystod fwy amrywiol o bobl.
7 Papurau i’w nodi:
7.a Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd – Adroddiad
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad, sy'n cynnwys 32 o argymhellion ar gyfer Gweinidogion Cymru, y Senedd, Comisiwn y Senedd, pleidiau gwleidyddol, y Bwrdd Taliadau a'r Comisiwn Etholiadol.
7.b Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio, sy’n cael ei ddarparu i bob cyfarfod o'r Comisiwn.
7.c Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ynghylch cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg
7.d Newid rheolau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd
Nododd y Comisiynwyr fod y Bwrdd Taliadau wedi ysgrifennu am gynnig i newid rheolau’r Cynllun i roi hyblygrwydd i'r Actiwari, o ran pryd y mae'n rhaid cwblhau a llofnodi'r prisiad actiwaraidd. Ymgynghorwyd â'r holl Aelodau.
8 Unrhyw faterion eraill
· Hwyluso datganiad trawsbleidiol – Cytunodd y Comisiynwyr i ymgynghori â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Gydraddoldeb Hiliol o ran hwyluso datblygu datganiad Cymraeg trawsbleidiol, gan ymgorffori egwyddorion y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu ar sail Hil, yn unol â chais y Senedd.
· Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Nododd y Comisiynwyr lythyr a gafodd y Prif Weithredwr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn dilyn sesiwn dystiolaeth y pwyllgor ar 21 Medi.
Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb.